Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell

Sut ydw i’n gwneud cais benthyciad rhwng llyfrgelloedd?

3032 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Sep 14, 2022    Cais Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd

Os nad yw'r eitem rydych yn chwilio amdani ar gael yma, ac rydych yn ei ystyried yn hanfodol ar gyfer eich astudiaethau neu ymchwil (sylwch mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau), mae’n bosib gwneud cais Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd wrth ddilyn y camau canlynol.


O gatalog y Llyfrgell Chwiliad Llyfrgell, cliciwch ar y ddolen Mewngofnodi yng nghornel dop de'r sgrin

Mewngofnodi

 

  • Er mwyn archebu erthyglau o gyfnodolion a phapurau newydd a thrafodion cynhadledd

Yn gyntaf, sicrhewch eich bod chi’n chwilio dan gwmpas chwilio Popeth. Yn ogystal â hyn, sicrhewch fod yr opsiwn Dangos hefyd canlyniadau heb destun llawn, dan yr is-deitl Mireinio fy nghanlyniadau ar yr ochr dde wedi cael ei dewis.

 

 

Os na fydd gan y Brifysgol fynediad i'ch eitem, byddwch yn gweld cyswllt Dim Testun Llawn o dan y teitl, cliciwch ar y cyswllt a bydd hyn agor cyswllt i chi allu archebu copi drwy Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd

 

 

Pan ydych yn clicio ar y cyswllt Cais Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd bydd ffurflen wedi’i llenwi’n awtomatig yn ymddangos ar y sgrin. Sicrhewch fod y manylion yn gywir.  

 

 

Byddwch angen dewis pa lyfrgell y hoffwch eich eitem gael ei ddosbarthu iddo ac yno, ar waelod y ffurflen mae angen i chi ddarllen y wybodaeth hawlfraint a chytuno â’r amodau drwy dicio'r bocs. Cyflwynwch eich cais trwy glicio Cais.

 

 

 

  • Er mwyn archebu llyfr neu draethawd hir

Sicrhawch eich bod yn chwilio o dan gwmpas chwilio Chwiliad Bangor a theipiwch deitl eich llyfr yn llawn. Gofalwch bod y geiriau i gyd wedi eu sillafu yn gywir.  Bydd yn helpu i chi roi dyfynnodau o amgylch teitl y llyfr. Os ydych yn chwilio am lyfr gyda theitl cyffredin (e.e. "Child Behaviour") bysem yn amgrymu i chi hefyd ychwanegu enw'r awdur.

 

Cais am fenthyciad rhynglyfrgellol

 

Os nad yw'r Llyfrgell yn cadw copi o'r llyfr, byddwch yn gweld yr opsiwn Gwnewch Gais Benthyciad Rhwng Llyfrgelloedd.  Bydd clicio ar y cyswllt hwn yn agor ffurflen i chi fewnbynu manylion y llyfr. Dewiswch y tab Llyfr a theipiwch fanylion y llyfr i'r meysydd priodol gan gynnwys Teitl, Awdur, Blwyddyn Argraffiad ac ISBN, yno cliciwch ar Submit

 

 

  • Os na allwch ddod o hyd i'r eitem yr ydych ei angen drwy gatalog y llyfrgell

Os na allwch ddarganfod eich eitem drwy'r dulliau uchod, gallwch gyflwyno cais neu gysylltu â ni ar ill@bangor.ac.uk

Os bydd angen i chi adnewyddu un o'ch Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd, cysylltwch â ni ar yr e-bost uchod.

darllen mwy

Sut ydw i'n defnyddio catalog y llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell) i gael hyd i adnoddau yn y llyfrgell?

2344 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022    Welsh

Catalog y Llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell) yw'r allwedd i gael hyd i eitemau yn y Llyfrgell.  Mae Chwiliad Llyfrgell wedi ei rannu yn bedair cwmpas chwilio; Popeth, Casgliadau Llyfrgell PB , Chwiliad Erthyglau ac E-Adnoddau Bangor

Gallwch ddewis y cwmpas priodol o'r ddewislen ddisgynnol ar ddiwedd y blwch chwilio

neu drwy ddewis y cwmpas priodol sy'n ymddangos yn y blwch chwilio wrth i chi deipio eich termau chwilio

Popeth: Chwilio drwy'r holl gasgliadau yn cynnwys print ac electroneg a gall gael ei ehangu i ddangos canlyniadau heb destun llawn

Casgliadau Llyfrgell PB: Chwilio am ddeunydd a chedwir gan Brifysgol Bangor yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, cronfeydd data, cyfnodolion fesul teitl, DVDs, CDs, traethodau ymchwil a sgorau cerdd

Chwiliad Erthyglau: Chwilio am erthyglau cyfnodolion a phapurau newydd yn ogystal â thrafodion cynhadledd a phenodau llyfrau

E-Adnoddau Bangor: Chwilio am e-lyfrau, e-gyfnodolion, cronfeydd data a traethodau hir PhD digidol.

Os ydych yn chwilio am lyfr, defnyddiwch y cwmpawd Chwiliad Bangor. Teipiwch cymaint o fanylion ac sydd gennych am eich llyfr i mewn i’r blwch chwilio, gan gynnwys y teitl ac enw’r awdur, ac yna pwyswch y botwm Chwilio.

Pan ydych yn cael hyd i eitem yn Chwiliad Llyfrgell, os mae ar gael i’w fenthyg, bydd yn dangos y statws Ar gael yn gyda’r lleoliad wedi ei restri. Cliciwch ar y cyswllt Ar gael yn i weld faint o gopïau sydd ar gael. Dylech nodi lleoliad a rhif y llyfr er mwyn eich helpu i gael hyd i'r llyfr ar y silff.   Bydd y lleoliad yn dweud wrthych ym mha lyfrgell y cewch hyd i'r eitem ac ym mha adran.   Rhif y llyfr yw'r system a ddefnyddir gennym i gael hyd i'r llyfr ar y silff.

Gallwch hefyd gyfyngu eich chwiliad i e-lyfrau yn unig, gan fynd drwy’r broses uchod, ac o’r ffilteri ar ochr dde'r sgrin, dewis  Dangos yn Unig - ‘Testun Llawn Arlein’ ac yna, Math o Adnodd - ‘Llyfrau a Llyfrau Electronig

Os fysech yn licio cadw cofnod o’ch chwiliadau, gallwch eu safio drwy glicio ar eicon y pin gyferbyn a’r teitl a’i binio i’ch ffefrynau.  Gallwch hefyd allforio canlyniadau eich chwiliadau i’ch e-bost neu i declyn rheoli cyfeirnodau megis Refworks a Mendeley.  Eich ardal bersonol o ryngwyneb Chwiliad Llyfrgell yw ‘Fy Ffefrynnau’ lle gallwch gadw rhestri o lyfrau, erthyglau a strategaethau chwilio.  Bydd angen i chi fewngofnodi i alluogi holl agweddau’r system.  Gallwch allforio eich ffefrynnau i declyn rheoli cyfeirnodau drwy glicio ar y tri dot a fydd yn dadlennu eich opsiynau.

Os ydych eisiau cael hyd i eitemau ar restr ddarllen arbennig modiwl neilltuol, gallwch wneud hynny drwy glicio ar y cyswllt 'Rhestrau Darllen', ar ochr chwith y sgrin o dudalen gartref y catalog..

a theipio teitl eich modiwl neu god y modiwl gan gynwys y cysylltnod a dewis y rhestr ar gyfer y flwyddyn astudio cyfredol.

 

 

 

darllen mwy

Beth allaf i ei wneud heb fewngofnodi?

2224 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 26, 2016   

Gallwch:

  • Chwilio trwy'r catalog
  • Defnyddio 'Sgwrs y Llyfrgell' er mwyn gofyn cwestiwn ar-lein.
darllen mwy

Am beth ydw i'n chwilio pan fyddaf yn defnyddio ‘Chwiliad Llyfrgell’?

1948 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022    Welsh

Mae cwmpas y chwiliad yn diffinio ble dylai'r system chwilio. Mae cwmpas chwilio diofyn wedi ei osod i chwilio am bopeth.  Ond gallwch newid cwmpas eich chwiliad trwy ddewis cwmpas o'r gwymplen ar ddiwedd y blwch chwilio neu fel maent yn ymddangos wrth i chi deipio eich termau chwilio.

  • Mae 'Chwiliad Llyfrgell' yn borth sy'n caniatáu i chi chwilio ar draws ystod eang o adnoddau a darganfod eitemau a gedwir yng nghasgliadau print ac ar-lein y llyfrgell.   Mae'r casgliadau hyn yn cynnwys llyfrau print ac electronig a chyfnodolion print ac electronig.  Mae hefyd yn cynnwys yr eitemau sydd yng nghadwrfeydd y brifysgol, sy'n cynnwys cynnyrch ymchwil, papurau arholiad a thraethodau ymchwil doethurol.
  • Porth yw 'Chwiliad Erthyglau' sy'n eich galluogi i chwilio ar draws ystod enfawr o adnoddau.  Yn ychwanegol at yr adnoddau y mae Prifysgol Bangor wedi tanysgrifio iddynt, mae'r chwiliad yn cynnwys ystod helaeth o ddeunydd testun llawn sydd ar gael yn y gymuned academaidd ehangach.   Os ydych am ehangu eich chwiliad i gynnwys canlyniadau nad ydynt yn cynnwys testun llawn, defnyddiwch yr opsiwn 'Dangos hefyd canlyniadau heb destyn llawn' ar ochr dde y sgrin.

  • Llwyfan EBSCO (wedi ei gynnwys wrth chwilio am erthygl)

Pan fyddwch yn chwilio am erthygl, bydd eich canlyniadau'n cynnwys erthyglau o lwyfan EBSCO.   Ond ni fydd canlyniadau EBSCO yn ymddangos yn nifer y canlyniadau sy'n ymddangos mewn cromfachau. 

 

Nid yw'n bosib cyfyngu ar ganlyniadau'r chwiliad i weld cynnwys EBSCO yn unig wrth chwilio am erthyglau ar hyn o bryd.  Er mwyn gwneud chwiliadau y gellir cyfyngu arnynt, bydd rhaid i chi naill ai chwilio llwyfan llawn EBSCO neu chwilio yn y gronfa ddata penodol (mae pob un ohonynt wedi'u rhestru yn Chwiliad Bangor:

CINAHL (testun llawn)

ATLA Religion Database with ATLASerials (testun llawn)

RILM Abstracts of Music Literature

darllen mwy

Beth yw cyfnodolion wedi eu hadolygu gan gymheiriaid?

1766 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022   

Cyfnodolion academaidd yw cyfnodolion wedi eu hadolygu gan gymheiriaid sydd â'u cynnwys wedi eu hadolygu gan arbenigwyr yn y maes dan sylw, sy'n golygu bod y cynnwys yn hygred ac o ansawdd uchel.  Pan fyddwch yn cyfyngu ar eich chwiliad gan ddefnyddio hwn, byddwch yn gweld  eitemau sydd wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid yn unig.  Mae’r rhestr o gyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yn seiliedig ar wybodaeth a geir gan gyhoeddwyr.

darllen mwy

Beth yw gorchmynion Boolean?

1762 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Feb 27, 2019   

Gorchmynion yw'r rhain sy'n eich galluogi i gyfuno geiriau chwilio er mwyn ehangu neu gyfyngu ar eich chwiliad. Mae'r geiriau y gellir eu defnyddio yn y catalog hwn yn cynnwys AND, OR, NOT a NEAR.

  • Mae AND yn cyfuno dau neu fwy o eiriau allweddol ac yn cyfyngu ar eich chwiliad, er enghraifft:
    Bydd Peacocks AND Paradise yn dangos canlyniadau sy'n cynnwys y ddau air, e.e. Peacocks in Paradise.
  • Bydd OR yn dangos canlyniadau gyda naill neu'r llall o'r geiriau allweddol yn y teitl ac yn ehangu ar eich chwiliad, er enghraifft:
    Bydd Peacocks OR Paradise yn dangos canlyniadau sy'n cynnwys Peacocks in Paradise a Paradise Lost.
  • Bydd NOT yn eithrio gair o'ch chwiliad, gan ei wneud yn fwy penodol, er enghraifft:
    Bydd Milton, John NOT Paradise Lost yn arwain at restr o weithiau gan Milton nad yw'n cynnwys Paradise Lost.
  • Bydd NEAR yn dangos canlyniadau sydd o fewn pum gair i eiriau eich chwiliad, er enghraifft:
    Bydd History NEAR Britain yn arwain at restr o weithiau sy'n cynnwys Geoffrey of Monmouth, The History of the Kings of Britain

Bydd eich llyfrgellydd cefnogaeth academaidd yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw agwedd ar eich strategaeth chwilio.  Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni i ofyn am gymorth.

darllen mwy

Sut alla i ddarganfod eitemau ar restr ddarllen fy modiwl?

1761 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022    Welsh

Gallwch chwilio am restr ddarllen eich modiwl drwy glicio ar y cyswllt Rhestrau Darllen ar ochr chwith tudalen hafan Chwiliad Llyfrgell.

O dudalen chwilio'r Rhestrau Darllen, teipiwch rif (yn cynnwys y cysylltnod) neu deitl eich modiwl i mewn i'r bocs chwilio.  Gofalwch eich bod yn dewis y rhestr ddarllen ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

darllen mwy

Sut ydw i'n cael hyd i lyfrau ar y silffoedd?

1726 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022    Welsh

Chwilio am lyfrau yn Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfrgell)

Er mwyn dod o hyd i lyfrau yn y llyfrgell, bydd angen i chi deipio teitl y llyfr i mewn I Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfrgell). I chwilio am lyfrau, gofalwch eich bod yn chwilio trwy’r cwmpawd Casgliadau Llyfrgell PB

 

Unwaith yr ydych wedi darganfod yr eitem wedi ei restri, bydd angen i chi nodi'r llyfrgell sy’n cadw copi (Prif, Cymraeg, Maelor, Cyfraith ayb.). Bydd y Lleoliad Ar gael yn dangos pa lyfrgell fydd yn cadw’r llyfr ac ym mha leoliad o fewn y llyfrgell (Llyfr, Pamffled, Llyfr Mawr, Cyfnodolyn ayb.).

Gallwch glicio ar sawl lleoliad i weld a'r llyfrgelloedd sy’n dal copi:

Yn yr esiampl hon, mae un copi ar gael yn y Prif Lyfrgell

Unwaith y byddwch wedi nodi'r llyfrgell a’r lleoliad, gwnewch nodyn o’r rhif galw gan mai dyma y byddwch ei angen i ddod o hyd i’r llyfr ar y silff.

 

Sut I ddarllen rhifau galw

Bydd llyfrgelloedd yn defnyddio rhifau galw i drefnu llyfrau ar y silffoedd. Cedwir y llyfrau yn ôl trefn ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres (Library of Congress).  Mae rhifau'r llyfrau'n dechrau gyda llythyren ac yn mynd drwy'r wyddor gyda phob grŵp pwnc eang yn cael ei lythyren ei hun.  

Mae'r llythyren a'r rhif sy'n dilyn y llythyren gyntaf/llythrennau cyntaf yn cyfyngu'r pwnc fel bod llyfrau ar yr un testun yn cael eu dosbarthu gyda’i gilydd.  Bydd hyn yn golygu tra byddwch yn pori’r silffoedd, byddwch yn darganfod llyfrau defnyddiol tebyg gerllaw.

Strwythur Rhif Galw

Teitl: Change by design: how design thinking transforms organizations and inspires innovation

Awdur: Tim Brown

Rhif Galw: HD58.8 .B772 2009

Sut i ddod o hyd i lyfr ar y silff

Nawr i ddod o hyd i’r llyfr ar y silff.

Bydd nawr angen i chi edrych ar y labeli silffoedd sydd yn ymddangos ar ben pob rhes o silffoedd. 

Trefn Silffoedd

Caiff rhediad y rhifau galw eu trefnu o’r chwith i’r dde ar y silff gan gychwyn ar y silff uchaf o’r bae cyntaf.  Ar ôl cyrraedd ddiwedd y silff, bydd y rhediad yn parhau ar ochr chwith y silff isod. Pan fo’r rhediad yn cyrraedd y silff waelod, bydd yna’n neidio i dop y silff ar yr ail fae.

darllen mwy

Sut ydw i'n mewngofnodi?

1712 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 26, 2016   

Er mwyn mewngofnodi, cliciwch ar y ddolen 'Mewngofnodi' yn y gornel dde uchaf.   Yn y ffenest newydd fydd yn agor, dylech roi eich rhif defnyddiwr prifysgol a’ch cyfrinair.
darllen mwy

Sut ydw i'n defnyddio nodau chwilio a blaendoriad wrth chwilio?

1686 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 26, 2016   

Nodau sydd ar goll yw nodau chwilio. Maent yn ddefnyddiol os ydych eisiau chwilio am wahanol sillafiadau.

  • Defnyddiwch ? pan fyddwch eisiau nodi nifer y nodau sydd ar goll; defnyddiwch nifer y ? sy'n cyfateb â nifer y nodau sydd ar goll, er enghraifft: Bydd colo?r yn dod o hyd i  colour a color ond nid  collector.
  • Defnyddiwch * i gynrychioli nifer amhenodol o nodau sydd ar goll, er enghraifft: Bydd colo*r yn dod o hyd i  colour, color, collector etc.
  • Gallwch ddefnyddio blaendoriad ar ddechrau ac ar ddiwedd gair, er enghraifft: bydd librar* yn dod o hyd i library, librarian etc. Dim ond library bydd librar? yn dod o hyd iddo.  Bydd *arm yn dod o hyd i  farm, harm, charm etc.

Bydd eich llyfrgellydd cefnogaeth academaidd yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw agwedd ar eich strategaeth chwilio.  Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni i ofyn am gymorth.

darllen mwy

Sut ydw i'n adnewyddu fy llyfrau?

1658 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Feb 12, 2020   

  1. Staff a Myfyrwyr Cofrestiedig y Brifysgol

 

  • Bydd system y Llyfrgell yn adnewyddu’n awtomatig pob un o'r eitemau cymwys rydych wedi eu benthyca, saith niwrnod cyn y dyddiad rydych i fod i'w dychwelyd.
  • Bydd hyn yn digwydd yn y gynnar yn y bore. Anfonir neges i'ch cyfrif e-bost prifysgol os na fu'r broses o'u hadnewyddu yn llwyddiannus
  • Os na fydd eitem wedi ei adnewyddu, mae'n rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad penodedig neu cewch eich dirwyo.
  • Bydd dirwyon am eitemau a alwyd yn ôl ac sy'n hwyr yn cael eu dychwelyd yn parhau i fod yn £1 y dydd, am bob eitem.
  • Ni ellir adnewyddu eitem mwy nag 14 gwaith, ac unwaith y byddwch wedi cyrraedd y nifer hwnnw, bydd rhaid i'r eitem gael ei ddychwelyd i'r llyfrgell i brofi nad ydych wedi ei golli neu ei ddifrodi.
  • Nid yw benthyciadau cyfnod byr (benthyciadau 24 awr a 3 diwrnod) wedi eu cynnwys yn y drefn hon ac ni chânt eu hadnewyddu'n awtomatig.
  • Galw eitemau'n ôl - gellir galw llyfrau'n ôl ar unrhyw adeg.  Efallai y cewch hysbysiad sy'n galw eitem yn ôl hyd yn oed os nad yw'r llyfr wedi bod gennych am fwy nag ychydig o ddyddiau. Yn y sefyllfa hon, byddem yn canslo'r dyddiad dychwelyd gwreiddiol a rhoi dyddiad newydd i chi ei ddychwelyd.  Mae’n bwysig edrych ar eich negeseuon e-bost yn rheolaidd/bob dydd er mwyn osgoi dirwyon.

Sylwch: Os bydd eich dirwy llyfrgell dros £10 neu os fydd genych lyfrau sydd wedi cael eu hadalw yn hwyr (llyfrau sydd wedi cael eu galw yn ôl gan ddarllenwyr eraill), ni fydd eich llyfrau yn adnewyddu yn awtomatig.

 

    2.  Darllenwyr Allanol megis LINC y Gogledd a benthycwyr Sconul Access

 

  • Os ydych angen cadw eich benthyciadau am gyfnod hirach, gallwch eu hadnewyddu ar unrhyw adeg cyn belled â; nad yw benthyciwr arall wedi gwneud cais am eich llyfrau, neu, nad oes genych ddirwyon heb ei talu neu unrhyw broblem gyda’ch aelodaeth llyfrgell.
  • Gallwch adnewyddu eich llyfrau, rheoli eich cyfrif, edrych ar unrhyw geisiadau yr ydych wedi eu gwneud a dirwyon heb eu talu drwy fewngofnodi i Chwiliad Llyfrgell.  Byddwch angen cysylltu ag aelod o staff i greu cyfrinair yn gyntaf.
  • Unwaith bo cyfrinair wedi ei greu, cliciwch ar y cyswllt Mewngofnodi yn y gornel top de o’r sgrin ac mewn-gofnodwch fel Defnyddwyr Eraill gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell fel User ID ac yna eich cyfrinair.
  • Gallwch hefyd adnewyddu eich benthyciadau wrth ddefnyddio'r peiriannu hunain weinyddu, wrth ddesg y llyfrgell neu drwy ffonio desg y Llyfrgell ar (01248 382983).  Cofiwch bydd angen eich cerdyn llyfrgell ar gyfer hyn.

Ni ddylech ofyn am adnewyddu eich llyfrau drwy e-bost gan na allwn sicrhau y bydd eich e-bost yn cael ei ddarllen mewn pryd i atal dirwyon.

 

darllen mwy

Sut ydw i'n nodi cyfeiriadau a llyfryddiaethau?

1629 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Jan 26, 2017   

Gallwch fynd at ganllawiau'r Llyfrgell ar nodi cyfeiriadau a llyfryddiaethau drwy'r linc yma


Am gymorth pellach, cysylltwch â'r Tîm Cefnogaeth Academaidd

darllen mwy

Beth allaf ei wneud os ydw i'n mewngofnodi i Chwiliad Llyfrgell?

1513 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022   

Dyma ychydig o'r manteision sydd ar gael i chi pan fyddwch wedi mewngofnodi i Primo:

 

  • Gallwch chwilio trwy gatalog y llyfrgell a chael mynediad at adnoddau ar-lein.
  • Gallwch gadw eitemau o'r rhestr ganlyniadau i'ch Ffefrynnau trwy glicio ar yr eicon Pin bychan i dde o'r teitl.

  • Gallwch hefyd gadw ymholiadau chwilio rydych wedi eu gwneud, er mwyn eu defnyddio eto yn y dyfodol.  Rydych yn gwneud hyn trwy glicio ar 'Ewch i fy ffefrynnau'.

  • Gallwch adalw llyfrau sydd allan ar fenthyg a gwneud ceisiadau ar lyfrau
  • Cewch fynediad at adnoddau trwyddedig tra byddwch oddi ar y campws.  Mae’r Llyfrgell yn darparu mynediad at adnoddau llawn testun, lle bynnag yr ydych.
darllen mwy

Sut ydw i'n cyfyngu ar fy chwiliad?

1505 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022    Welsh

Gallwch gyfyngu ar eich chwiliad yn Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfgfell) y golofn dde pan fyddwch yn edrych ar eich canlyniadau. Gallwch ddefnyddio un neu fwy o'r meysydd isod i gyfyngu ar eich chwiliad

Fel y byddwch yn symud y cyrchwr dros y ffilteri, bydd blychau melyn yn ymddangos. Gallwch ddewis cymaint o'r ffilteri a ydych eu hangen. Sylwch y gallwch deipio werth y Dyddiad Creu, neu ddefnyddio'r saethau i fyny ac i lawr i addasu amrediad y dyddiadau.

Unwaith y byddwch wedi dewis y ffilteri priodol, cliciwch ar Apply Filters i ddiwygio'ch chwiliad.

Byddwch yn colli unrhyw newidiadau os byddwch yn dechrau chwiliad o'r newydd.

Nodyn pwysig:  Bydd cyfyngu ar eich chwiliad yn DILEU unrhyw gynnwys Ebsco. 

darllen mwy

Sut mae staff academaidd yn archebu copïau newydd o lyfrau?

1474 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Nov 01, 2021   

Cysylltwch â'r Llyfrgellydd Cefnogaeth Academaidd perthnasol i'ch Coleg gydag unrhyw ymholiadau ynghylch archebu adnoddau newydd i'w hychwanegu at stoc y Llyfrgell.
darllen mwy

A allaf osod fy newis iaith?

1431 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 26, 2016   

Gall staff a myfyrwyr osod dewis iaith yn Primo at ddibenion chwilio, ond anfonir gohebiaeth atoch yn y dewis iaith a gofnodwyd yn eu cofnod prifysgol canolog (Banner/Cyflogres).  Dim ond wrth gysylltu ag AD neu'r Gofrestrfa y gellir newid hyn.

Gall defnyddwyr allanol (e.e. Linc, mynediad galw heibio) ofyn wrth ddesg y llyfrgell i gael diweddaru eu dewis iaith.

darllen mwy

Lle ydw i'n dod o hyd i gronfeydd data?

1249 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 26, 2016   

O dan y tab 'Chwilio'r llyfrgell', teipiwch enw'r gronfa ddata yn y blwch chwilio ac yna cyfyngwch ar y chwiliad trwy ddefnyddio:  'Math o adnodd' - cronfeydd data,

darllen mwy

Nid yw'r Llyfrgell yn ymddangos i ddal copi o'r llyfr rwyf ei angen. Beth alla'i ei wneud?

1217 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Apr 24, 2019   

Os nad yw’r llyfrgell yn dal copi o’r llyfr yr ydych ei angen, mae’r opsiynau canlynol yn agored i chi:
Os mae’r llyfr ei angen ar gyfer modiwl penodedig neu yn ymddangos ar restr ddarllen, dylech ofyn i’ch tiwtor i archebu copi ar gyfer y llyfrgell drwy’r gwasanaeth Rhestrau Darllen.
Os mae’r llyfr ar gyfer astudio neu ymchwil personol, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Benthyca Rhwng Llyfrgelloedd.
Pan fydd ar gael, gallwch hefyd awgrymu i’r llyfrgell brynu copi drwy’r gwasanaeth Mwy o Lyfrau.

 

darllen mwy

Sut ydw i'n do o hyd i ddeunydd clyweled, fideo a DVD a sut allai eu benthyg?

1149 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 12, 2022    Welsh

Er mwyn dod o hyd i’r deunydd clyweled, bydd angen i chi chwlio catalog y llyfrgell gyda’ch allweddeiriau ac yno cyfyngu eich chwiliad i Math o Adnodd: Clywedol.

Mae casgliad DVD yn cael eu cadw ar y silffoedd agored yn y Stac.  Gellwch naill ai fenthyca'r DVDs eich hun wrth y ddesg hunan-wasanaeth neu fynd â hwy i'r ddesg gwasanaethau cwsmer.  Mae tag diogelwch ar yr holl DVDs ac felly bydd angen i chi fynd â hwy i'r ddesg gwasanaeth cwsmer cyn i chi adael y llyfrgell er mwyn i'r tag diogelwch gael ei dynnu.

 

darllen mwy

O ble rydw i'n cael fy ngherdyn myfyriwr / mynediad?

1028 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Jan 27, 2017   

Unwaith rydych wedi cofrestru'n swyddogol gyda'r Gofrestrfa Academaidd a chyflawni'r gwiriadau diogelwch, dylech holi'r staff Gwasanaethau Cwsmer yn Adeilad Deiniol ynghylch statws eich cerdyn.  

 

Cliciwch yma i gael manylion cyswllt a rhagor o wybodaeth am yr Adran Cofnodion Myfyrwyr. 

darllen mwy

yn ôl i'r brig

 

chat loading...