Beth allaf ei wneud os ydw i'n mewngofnodi i Chwiliad Llyfrgell?
1479 safbwyntiau |
0
0
|
Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022
Dyma ychydig o'r manteision sydd ar gael i chi pan fyddwch wedi mewngofnodi i Primo:
- Gallwch chwilio trwy gatalog y llyfrgell a chael mynediad at adnoddau ar-lein.
- Gallwch gadw eitemau o'r rhestr ganlyniadau i'ch Ffefrynnau trwy glicio ar yr eicon Pin bychan i dde o'r teitl.

- Gallwch hefyd gadw ymholiadau chwilio rydych wedi eu gwneud, er mwyn eu defnyddio eto yn y dyfodol. Rydych yn gwneud hyn trwy glicio ar 'Ewch i fy ffefrynnau'.

- Gallwch adalw llyfrau sydd allan ar fenthyg a gwneud ceisiadau ar lyfrau
- Cewch fynediad at adnoddau trwyddedig tra byddwch oddi ar y campws. Mae’r Llyfrgell yn darparu mynediad at adnoddau llawn testun, lle bynnag yr ydych.