Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Beth yw’r e-silff?

58 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Jul 10, 2017   

 

Adran bersonol y rhyngwyneb chwilio newydd yw'r e-silff lle gallwch storio rhestr o lyfrau ac erthyglau a strategaethau chwilio.  Unwaith bydd gennych eitemau ar eich e-silff , gallwch drefnu'r cynnwys i mewn i ffolderi unigol.  Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau personol at gofnod yr eitem, i'ch helpu i gadw trefn ar ddyfyniadau rydych wedi eu defnyddio neu benodau rydych angen eu hastudio, etc.  Gellir allforio'r rhestrau'n hawdd i feddalwedd rheoli cyfeirnodau megis Mendeley a Zotero. (DS: Ni fyddai eich nodiadau personol yn cael eu hallforio).

Er mwyn ychwanegu eitemau i'ch e-silff o'ch chwiliad, mae angen i chi glicio ar y seren fechan o flaen y teitl nes ei fod yn troi yn aur:

 

Gallwch weld cynnwys eith e-silf, drwy glicio ar y cyswllt yng nghornel dde top y sgrin.

Gallwch gadw trefn, creu ffolderi ac allforio eich dewisiadau o'r fan hon.

 

Sylwch: Er mwyn cael mynediad i'r e-silff bydd rhaid i chi fewngofnodi i'ch cyfrif llyfrgell.

 

chat loading...