Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
2344 safbwyntiau | 0 0 | Wedi i ddiweddaru ar Mar 30, 2022 Welsh
Catalog y Llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell) yw'r allwedd i gael hyd i eitemau yn y Llyfrgell. Mae Chwiliad Llyfrgell wedi ei rannu yn bedair cwmpas chwilio; Popeth, Casgliadau Llyfrgell PB , Chwiliad Erthyglau ac E-Adnoddau Bangor
Gallwch ddewis y cwmpas priodol o'r ddewislen ddisgynnol ar ddiwedd y blwch chwilio
neu drwy ddewis y cwmpas priodol sy'n ymddangos yn y blwch chwilio wrth i chi deipio eich termau chwilio
Popeth: Chwilio drwy'r holl gasgliadau yn cynnwys print ac electroneg a gall gael ei ehangu i ddangos canlyniadau heb destun llawn
Casgliadau Llyfrgell PB: Chwilio am ddeunydd a chedwir gan Brifysgol Bangor yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, cronfeydd data, cyfnodolion fesul teitl, DVDs, CDs, traethodau ymchwil a sgorau cerdd
Chwiliad Erthyglau: Chwilio am erthyglau cyfnodolion a phapurau newydd yn ogystal â thrafodion cynhadledd a phenodau llyfrau
E-Adnoddau Bangor: Chwilio am e-lyfrau, e-gyfnodolion, cronfeydd data a traethodau hir PhD digidol.
Os ydych yn chwilio am lyfr, defnyddiwch y cwmpawd Chwiliad Bangor. Teipiwch cymaint o fanylion ac sydd gennych am eich llyfr i mewn i’r blwch chwilio, gan gynnwys y teitl ac enw’r awdur, ac yna pwyswch y botwm Chwilio.
Pan ydych yn cael hyd i eitem yn Chwiliad Llyfrgell, os mae ar gael i’w fenthyg, bydd yn dangos y statws Ar gael yn gyda’r lleoliad wedi ei restri. Cliciwch ar y cyswllt Ar gael yn i weld faint o gopïau sydd ar gael. Dylech nodi lleoliad a rhif y llyfr er mwyn eich helpu i gael hyd i'r llyfr ar y silff. Bydd y lleoliad yn dweud wrthych ym mha lyfrgell y cewch hyd i'r eitem ac ym mha adran. Rhif y llyfr yw'r system a ddefnyddir gennym i gael hyd i'r llyfr ar y silff.
Gallwch hefyd gyfyngu eich chwiliad i e-lyfrau yn unig, gan fynd drwy’r broses uchod, ac o’r ffilteri ar ochr dde'r sgrin, dewis Dangos yn Unig - ‘Testun Llawn Arlein’ ac yna, Math o Adnodd - ‘Llyfrau a Llyfrau Electronig’
Os fysech yn licio cadw cofnod o’ch chwiliadau, gallwch eu safio drwy glicio ar eicon y pin gyferbyn a’r teitl a’i binio i’ch ffefrynau. Gallwch hefyd allforio canlyniadau eich chwiliadau i’ch e-bost neu i declyn rheoli cyfeirnodau megis Refworks a Mendeley. Eich ardal bersonol o ryngwyneb Chwiliad Llyfrgell yw ‘Fy Ffefrynnau’ lle gallwch gadw rhestri o lyfrau, erthyglau a strategaethau chwilio. Bydd angen i chi fewngofnodi i alluogi holl agweddau’r system. Gallwch allforio eich ffefrynnau i declyn rheoli cyfeirnodau drwy glicio ar y tri dot a fydd yn dadlennu eich opsiynau.
Os ydych eisiau cael hyd i eitemau ar restr ddarllen arbennig modiwl neilltuol, gallwch wneud hynny drwy glicio ar y cyswllt 'Rhestrau Darllen', ar ochr chwith y sgrin o dudalen gartref y catalog..
a theipio teitl eich modiwl neu god y modiwl gan gynwys y cysylltnod a dewis y rhestr ar gyfer y flwyddyn astudio cyfredol.