Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Unwaith rydych wedi defnyddio catalog y llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell) a chael hyd i'ch eitem wedi'i rhestru, mae angen i chi nodi ym mha lyfrgell y cedwir yr eitem (y Brif Lyfrgell, Deiniol, Normal, Llyfrgell Gymraeg, Maelor etc.) Bydd y lleoliad yn dweud wrthych ym mha lyfrgell y cewch hyd i'r eitem ac ym mha adran yn y llyfrgell honno (pamffled, llyfr mawr, cyfnodolyn etc.).
Cedwir y llyfrau yn ôl trefn ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres (Library of Congress). Mae rhifau'r llyfrau'n dechrau gyda llythyren ac yn mynd drwy'r wyddor gyda phob grŵp pwnc eang yn cael ei lythyren ei hun. Mae'r llythyren a'r rhif sy'n dilyn y llythyren gyntaf/llythrennau cyntaf yn cyfyngu'r pwnc. Ni fydd gan wahanol deitlau byth yr un rhif llyfr yn union.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016