Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Sut ydw i'n defnyddio'r peiriannau hunan-wirio?

619 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Dec 10, 2018   

 

Byddwch angen eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr/Mynediad i ddefnyddio'r peiriannau hyn.   Yn gyntaf bydd angen i chi ddewis eich iaith.  Yno, bydd pedwar botwm ar y sgrin: Benthyg, Dychwelyd, Gwybodaeth am eich Cyfrif ac Adnewyddu.  Er mwyn benthyca, dylech 'mewngofnodi' i'r peiriannau drwy ddal eich cerdyn mynediad, wyneb i fyny, fel bod y pelydr yn darllen ar draws y cod bar, fel y dangosir ar sgrin y peiriant. 

Unwaith y byddwch wedi logio i mewn, i fenthyca llyfrau mae angen i chi osod eich llyfrau ar y panel ynghanol y silff.   Gall y peiriannau dderbyn nifer o lyfrau gyda'i gilydd os rhowch hwy mewn tocyn bach ar y silff.  Gellwch ddefnyddio'r peiriannau hefyd i gael gwybodaeth am eich cyfrif, faint o lyfrau sydd gennych ar fenthyg ar hyn o bryd, a oes unrhyw rai ohonynt yn hwyr, neu os oes gennych eitemau ar gadw i chi y dylech eu nôl.   Gellwch ddefnyddio'r peiriannau hefyd i adnewyddu eich llyfrau, drwy ddewis teitlau unigol drwy'r bocsys ticio neu adnewyddu'r cyfan.

 

Wrth ddychwelyd llyfrau nid oes angen i chi sganio eich cerdyn - bydd y peiriant yn gwybod yn barod bod y llyfrau ar fenthyg i chi ond bydd angen i chi ddewis iaith ac yno'r botwn Dychwelyd.  Rhaid dychwelyd eitemau un ar y tro.   Bydd y sgrin yn dangos p'un a oes angen i chi roi'r llyfr ar y troli dychweliadau, neu roi llyfrau yn y bin 'eithriadau' (eitemau sydd i'w hanfon i lyfrgelloedd eraill neu rai y mae benthycwyr eraill wedi gofyn amdanynt).

 

Cofiwch allgofnodi ar ddiwedd pob sesiwn drwy bwyso'r botwm Wedi'i Wneud!!    Os na wnewch allgofnodi mae yna bosibilrwydd y gall y sawl fydd yn defnyddio'r peiriant nesaf fenthyca eu llyfrau ar eich cyfrif chi.  

 

chat loading...