Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Sut ydw i'n cael hyd i draethawd hir / ymchwil (thesis), yn cynnwys traethawd hir na chafodd ei ysgrifennu yn Mangor?

664 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 26, 2020    Welsh

 

Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau yn cadw traethodau ymchwil PhD a MPhil printiedig yn ogystal a rhai electroneg. Rydym hefyd yn cadw traethodau hir meistr (M.A.) ond ers 2015 byddwn yn dargadw rhai sydd wedi derbyn gradd rhagoriaeth neu yn ymdrin â Chymru yn unig.

Gallwch chwilio am gyn traethodau hir Meistr a PhD ym Mhrifysgol Bangor gan ddefnyddio catalog y llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell).  Dewiswch y cwmpawd chwilio “Casgliadau Llyfrgell PB”;

a theipio geiriau allweddol (e.e. Seicoleg, Bancio neu Fiocemeg etc.)  Yna gallwch gyfyngu eich chwiliad i Traethodau Hir drwy dicio'r blwch oddi tan Math o Adnodd o'r fwydlen  Mireinio fy Nghanlyniadau ar y dde o'r sgrin.

Os byddwch yn hoffi gweld copi o draethawd printiedig, nodwch y rhif ac ewch ag o, ynghyd â manylion yr awdur a'r teitl, at y ddesg gwasanaethau cwsmer.   Bydd ein staff wedyn yn nôl y traethawd i chi o ystafell sydd wedi'i chloi.   Sylwer bod yr holl draethodau ymchwil i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Mae Nifer o Draethodau PhD Prifysgol Bangor hefyd ar gael yn electroneg drwy Chwiliad Llyfrgell a byddent yn cynnig cyswllt Mynediad ar-lein.

Gallwch ledaenu eich chwiliad i gynnwys traethodau hir ymchwil doethur o brifysgolion eraill sy’n chwilio gwe-dudalen ETHOS (Electronic Thesis Online Service) y Llyfrgell Brydeinig, sy'n rhoi mynediad at destun llawn bron 100,000 o draethodau. Chwiliwch o dan y cwmpawd “Popeth”;

a theipio geiriau allweddol (e.e. Seicoleg, Bancio neu Fiocemeg etc.)  Yna gallwch gyfyngu eich chwiliad i Traethodau Hir drwy dicio'r blwch oddi tan Math o Adnodd o'r fwydlen  Mireinio fy Nghanlyniadau ar y dde o'r sgrin.

 

chat loading...