Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Pam mae fy llyfrau wedi cael eu galw'n ôl?

666 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Jan 27, 2017   

 

Ar rai adegau fe welwch bod galw mawr am rai teitlau, yn arbennig pan maent wedi eu pennu fel deunydd darllen allweddol ar gyfer traethodau ac aseiniadau.   Mae'n debygol iawn, felly, y bydd defnyddiwr arall yn adalw eitem yr ydych chi wedi’i benthyca.  Bydd hyn yn arwain at rybudd galw'n ôl.  Cewch wybod am y dyddiad byrrach newydd ar gyfer dod â’r eitem yn ôl i’r llyfrgell. Nid oes modd ichi adnewyddu benthyciad sydd wedi’i alw’n ôl, ond gellwch ofyn am gadw’r eitem o’r newydd. Os na ddewch â’r eitem yn ôl erbyn y dyddiad newydd, cewch gosb drymach am ddod â'r eitem yn ôl yn hwyr.

Cofiwch, os bydd eich dirwy llyfrgell dros £10 neu os fydd genych lyfrau sydd wedi cael eu hadalw yn hwyr , ni fydd eich llyfrau yn adnewyddu yn awtomatig.

 

chat loading...