Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Fel rheol, codir dirwyon am fenthyciadau sy’n dod yn ôl yn hwyr. Cyfrifoldeb y benthyciwr yw nodi’r dyddiad y mae eitem i ddod yn ôl, a dod â hi’n ôl mewn da bryd. Os byddwch heb dalu unrhyw ddirwyon, ni chewch fenthyca eto. Os na ellwch ddod ag eitem yn ôl yn brydlon, cysylltwch â'r llyfrgell er mwyn adnewyddu’r benthyciad.
Fodd bynnag, os oes gennych reswm dilys dros beidio â dychwelyd neu adnewyddu eich llyfr mewn pryd, gellwch lenwi ffurflen ymgynghori ar ddirwyon ac fe edrychwn i weld a yw'r rheswm a roddwyd yn un digonol i esgusodi'r ddirwy. Mae croeso ichi anfon copi o unrhyw ddogfennau meddygol etc. er mwyn cadarnhau eich rhesymau.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016