Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Yn gyntaf, byddem yn eich annog i gysylltu â’r llyfrgell, efallai na chafodd y llyfr ei ddychwelyd yn gywir ar y peiriannau hunan wirio. Gallwn wirio’r silffoedd i gadarnhau os yw’r llyfr ar goll. Drwy gysylltu â ni, gallwn ofalu na fydd eich benthyciadau eraill yn codi dirwyon.
Byddwn hefyd yn awgrymu i chi chwilio yn drylwyr am y llyfr adref. Gan fod benthyciadau yn adnewyddu yn awtomatig, mae’n debygol y byddwch wedi cael y llyfr ar fenthyg am amser hir ac efallai wedi anghofio lle gafodd ei adael. Oes bosib eich bod wedi ei fenthyg i gyd-fyfyriwr er enghraifft?
Os ydych wedi colli eitem o'r Llyfrgell, byddwn yn disgwyl i chi dalu ffi am gost prynu copi newydd a chost ychwanegol i brosesu'r copi hwnnw. Nid yw'n dderbyniol i chi ddarparu copi eich hun yn lle'r un a gollwyd.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau fod y llyfr wedi ei golli, gall staff ddesg gwasanaethau cwsmer brosesu bil a fydd yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif llyfrgell.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016