Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Gall myfyrwyr gofrestru gyda’r cynllun Sconul Access, sy'n rhoi mynediad i lyfrgelloedd prifysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun ar draws gwledydd Prydain. Bydd Staff, Ôl-raddedigion a myfyrwyr sy’n dysgu o bell, fel rheol, yn cael benthyca o’r llyfrgelloedd hyn tra bydd myfyrwyr israddedig yn cael eu cyfyngu i ddefnydd cyfeiriol yn unig.
Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan hefyd yn y cynllun LINC-y-Gogledd, sy'n gynllun benthyca rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus a llyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch a phellach ar draws Gogledd Cymru. Dan y cynllun hwn gellwch ofyn am i eitemau o lyfrgelloedd sy'n cymryd rhan ynddo gael eu danfon i'ch llyfrgell eich hun.
Gall myfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd ddefnyddio Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, i fenthyca a dychwelyd eitemau'n bersonol.
Gallwch fenthyg yn bersonol o Lyfrgell Prifysgol Glyndŵr drwy lenwi ffurflen aelodaeth LINC. Byddwch angen i'r ffurflen gael ei stampio a'i wirio gan eich llyfrgell gartref. Yna, ewch a'r ffurflen, gyda’ch cerdyn myfyriwr Prifysgol Bangor, at ddesg ddosbarthu'r llyfrgell yn Glyndŵr lle byddwch yn derbyn cerdyn benthyca a fydd yn eich galluogi i fenthyg 2 eitem am 2 wythnos ar y tro.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016