Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


All aelodau'r cyhoedd ddefnyddio Llyfrgelloedd y Brifysgol?

590 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 12, 2022   

 

Mae gan Lyfrgell Prifysgol Bangor bolisi drws agored ac mae croeso i'r  cyhoedd ddefnyddio'r llyfrgell yn ystod amseroedd agor arferol (9am - 9pm Llun i Wener a 12pm - 5pm ar benwythnosau).

Os hoffai aelodau'r cyhoedd fenthyca eitemau o'n casgliadau, gallant wneud hynny am ddim drwy ymuno drwy gynllun Linc-y-Gogledd.

Gall graddedigion Prifysgol Bangor ofyn am gael defnyddio’r Llyfrgell drwy yrru e-bost at y Swyddfa Alumni.

Os ydych yn fyfyriwr cofrestredig, neu'n aelod staff mewn prifysgol arall sy'n cymryd rhan, yn cynnwys y Brifysgol Agoredgellwch ymuno hefyd drwy'r cynllun Sconul Access

Gall Nyrsys, bydwragedd a radiograffyddion sydd yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Ngogledd Cymru wneud cais i ymuno drwy gyflwyno slip talu neu gontract i gadarnhau cyflogaeth wrth ddesg Gwasanaethu Cwsmeriaid.

Gall unrhyw un sydd ddim wedi ei gynnwys uchod ymuno fel benthyciwr allanol drwy dalu blaendal sicrwydd a thanysgrifiad blynyddol.  Cysylltwch â rheolwr y Gwasanaethau Cwsmeriaid am fwy o wybodaeth.

Bydd pob categori o Ddarllenydd Allanol, uchod, yn cael benthyg hyd at 6 llyfr am 2 wythnos a gallant ddefnyddio’r cyfleusterau llungopïo hunanwasanaeth. Mae mynediad i’n cyfrifiaduron sydd wedi eu rhwydweithio, yn ogystal ac ein adnoddau electroneg, wedi eu cyfyngu.

Gall Ddarllenwyr Allanol hefyd gael mynediad at rai o'n Hadnoddau Electroneg drwy'r gwasanaeth Mynediad Cerdded i Mewn, er bod rhai cyfyngiadau yn bodoli.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r gwasanaeth Mynediad Cerdded i Mewn

 

 

chat loading...