Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Cyfleuster oddi ar y safle yw’r Storfa Ymchwil lle bydd adnoddau o ddefnydd isel y Llyfrgell yn cael eu cadw.
Os byddech yn darganfod eitem yr ydach ei angen ar gatalog y llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell) sydd wedi ei leoli yn y Storfa Ymchwil, mae’n bosib i chwi wneud cais amdano. Bydd yr eitem yno yn cael ei ddosbarthu i’r Llyfrgell o’ch dewis o fewn tri diwrnod.
Sut i archebu eitem o’r Storfa Ymchwil:
Yn gyntaf, er mwyn galluogi holl nodweddion Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfrgell) bydd rhaid i chi glicio ar y cyswllt Mewngofnodi yng nghornel top de'r sgrin a mewngofnodi gyda’ch rhif defnyddiwr a chyfrinair swyddogol y Brifysgol.
Pan fyddech yn chwilio drwy ddefnyddio Chwiliad Llyfrgell a darganfod eitem ai leoliad wedi ei restri fel Storfa Ymchwil, er mwyn archebu’r eitem, bydd angen i chi glicio ar y cyswllt Ar gael yn
Dylai hyn ddangos botwm Gwneud Cais (neilltuo copi). Cliciwch ar y botwm a bydd ffurflen gais yn ymddangos.
Bydd rhaid i chi ddewis pa lyfrgell y hoffwch gasglu’r eitem ohono, ac yna clicio ar Cais.
Bydd yr eitem yna’n cael ei gasglu o’r storfa ar eich rhan, a’i ddanfon i’r llyfrgell o’ch dewis ymhen 3 diwrnod.
2. Archebu Cyfnodolion
Yn gyntaf, er mwyn galluogi holl nodweddion Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfrgell) bydd rhaid i chi glicio ar y cyswllt Mewngofnodi yng nghornel top de'r sgrin a mewngofnodi gyda’ch rhif defnyddiwr a chyfrinair swyddogol y Brifysgol.
Pan fyddwch yn gweld cyfnodolyn wedi ei restri fel Ar gael yn y Storfa Ymchwil, fe welwch fotwm Cais gyferbyn a rhestr y cyfrolau. Yn yr esiampl isod, i wneud cais am gyfrol 183 (1892) bydd angen i chi glicio ar y botwm Cais sy'n gyferbyn a'r gyfrol.
Bydd y ffurflen gais canlynol yn ymddangos i gadarnhau'r gyfrol yr ydych yn ofyn amdani. Bydd angen i chi ddewis pa lyfrgell y hoffwch gasglu’r eitem ohono, ac yna clicio ar Cais.
Bydd yr eitem yna’n cael ei gasglu o’r storfa ar eich rhan, a’i ddanfon i’r llyfrgell o’ch dewis ymhen 3 diwrnod.