Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Os bydd y llyfr ar gael yn y llyfrgell, yn anffodus, does dim modd gwneud cais amdano. Bydd rhaid i chi fynd i nôl y llyfr o’r silff eich hunain.
Os bydd y llyfr ar fenthyg, gallwch adalw copi drwy ddilyn y broses yn y cyswllt hwn.
Gwasanaeth Casglu Llyfrau ar gyfer myfyrwyr gydag anghenion ychwanegol
Os bydd yr angen o ddefnyddio’r Gwasanaeth Casglu Llyfrau wedi ei restri yn eich CCDP (Cynllun Cefnogi Dysgu Personol) gallwch wneud cais, fel bod staff y llyfrgell yn nôl eich llyfrau o’r silffoedd ac yn eu trosglwyddo at ddesg y llyfrgell. Bydd angen i chi yrru e-bost i’r llyfrgell llyfrgell@bangor.ac.uk gyda manylion y llyfrau erbyn 4p.m. a byddent yn cael eu paratoi ar eich cyfer erbyn 10a.m. y bore canlynol.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016