Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Anfonir linc i'r ddogfen atoch drwy e-bost gan yr adran Benthyciad Rhwng Llyfrgelloedd. Bydd clicio ar y linc pan fyddwch wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd yn mynd â chi i'r dudalen lawrlwytho.
Os nad ydych wedi cofrestru ar On Demand, gellwch gofrestru drwy glicio ar ‘Register for On Demand' ar y dudalen lawrlwytho. Dilynwch y cyfarwyddiadau sy'n cynnwys gweithredu eich cyfrif drwy ateb e-bost cadarnhau. (Peidiwch â chreu enw defnyddiwr yn cynnwys y symbol @, gan y gallai hynny achosi i'r ddogfen beidio ag agor.) Arhoswch am 5 munud i system y Llyfrgell Brydeinig ddiweddaru, yna ewch yn ôl i'r dudalen lawrlwytho a theipiwch eich enw defnyddiwr neu gyfeiriad e-bost cofrestredig On Demand, ac yna cliciwch ar 'Download your document'.
Os ydych wedi cofrestru ar On Demand a bod y system yn adnabod eich cyfeiriad e-bost, fe'ch anogir i 'Click to download your document'.
Os ydych wedi cofrestru ond nad yw'r system yn adnabod eich cyfeiriad e-bost, fe'ch anogir i deipio eich enw defnyddiwr neu gyfeiriad e-bost cofrestredig On Demand cyn i chi glicio ar 'Download your document'.
Ar ôl clicio i lawrlwytho eich dogfen, byddwch yn cael yr anogaeth a ganlyn:
Sylwer: gyda rhai dyfeisiadau symudol efallai bydd rhaid i chi fynd at yr hysbysiad 'downloads' cyn y gellwch fynd at yr anogwr hwn. Teipiwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i fynd at y ddogfen.
Bydd angen i chi deipio'r manylion hyn bob tro y byddwch yn mynd at y ddogfen, oni bai eich bod yn ticio'r bocs 'Remember me on this computer'. Peidiwch â thicio'r bocs hwn os ydych yn mynd at y ddogfen ar gyfrifiadur sy'n cael ei rannu.