Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Rydw i'n awdur cyhoeddedig, a oes gen i hawl i daliadau breindal?

707 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 29, 2017   

 

Dylai awduron academaidd o Brifysgol Bangor y mae eu gweithiau wedi'u cyhoeddi ystyried ymuno â'r Authors' Licensing and Collecting Society (ALCS).

Gall awduron fod â hawl i dderbyn taliadau breindal eilaidd os caiff eu gweithiau eu hailddefnyddio dan gynlluniau trwyddedu, megis y rhai a reolir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (Copyright Licensing Agency - CLA).  Mae trwyddedau'r CLA yn cynnwys copïo a digideiddio erthyglau o gyfnodolion a rhannau o lyfrau, er enghraifft i ddibenion addysgu mewn addysg uwch. Mae hyn yn amlwg yr un mor berthnasol i lyfrau ac erthyglau a gyhoeddir gan awduron academaidd ag awduron sy'n gweithio mewn meysydd eraill.  Mae'r Llyfrgell yn dal trwydded addysg uwch y CLA, sy'n rhoi hawl i ni ddigideiddio darlleniadau ar gyfer cyrsiau yn gyfnewid am daliad blynyddol i'r CLA. 

Mae'r ALCS yn casglu a dosbarthu taliadau sy'n ddyledus i awduron y mae eu gweithiau wedi cael eu hailddefnyddio dan drwydded y CLA a thrwyddedau eraill.  Dosberthir cyllid ar sail y wybodaeth sydd ar gael i'r ALCS.  Trwy wneud cais am aelodaeth gall awduron roi gwybodaeth amdanynt eu hunain a'u cyhoeddiadau eu hunain sy'n cynorthwyo'r ALCS i ddosbarthu taliadau. 

Mae'r ALCS yn cyllido ei gweithgareddau drwy godi tâl aelodaeth unwaith yn unig (£36 adeg ysgrifennu hyn - ond edrychwch ar eu gwefan) a chodi canran ar holl daliadau breindal.  Tynnir y tâl aelodaeth o unrhyw daliadau sy'n ddyledus i'r awdur yn y pen draw, felly nid yw'n daliad ymlaen llaw. 

Edrychwch ar wefan yr ALCS neu cysylltwch â hwy i gael manylion.  Dylai awduron academaidd gofio wrth gwrs y bydd unrhyw daliadau a all fod yn ddyledus iddynt am ailddefnyddio eu gwaith yn debygol o fod yn bur fychan.  Hefyd mae angen i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch eich hun i hwyluso unrhyw daliadau. 

ALCS yw'r unig ffordd o gael unrhyw arian y gallech fod â hawl i'w dderbyn am ddefnyddio eich gwaith dan y Drwydded CLA ac felly mae'n werth ei ystyried.  Dylech wrth gwrs benderfynu drosoch eich hun a ydych eisiau ymaelodi ar sail y wybodaeth sydd ar gael gan yr ALCS. 

 

chat loading...