Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
573 safbwyntiau | 0 0 | Wedi i ddiweddaru ar Jan 10, 2020 Welsh
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i Chwiliad Llyfrgell drwy'r cyswllt yng nghornel dop de'r sgrin
Gallwch gadw rhestrau o lyfrau ac erthyglau drwy glicio ar yr eiconau pin sy'n ymddangos ger teitl yr eitem a Phinio i'r Ffefrynnau
I weld yr eitemau yr ydych wedi eu hychwanegu i'ch ffefrynnau, cliciwch ar eicon y pin sy'n ymddangos ger eich enw yng nghornel dop de'r sgrin
Bydd hyn yn dangos rhestr o'r eitemau yr ydych wedi eu safio i'ch ffefrynnau
Gallwch grwpio eich eitemau i ffolderi drwy glicio ar y cyswllt Ychwanegu Labeli. Byddwch yn cael eich anog i greu teitl ar gyfer eich label. Yn yr enghraifft isod, rydym wedi creu label o'r enw Hanes y Tywysogion
Byddwch yno'n gweld eich label yn ymddangos oddi tan yr eitem yr ydych wedi ei ddewis. Bydd rhestr o'r labeli yr ydych wedi eu creu i’w gweld ar y dde
I ychwanegu eitemau dilynol i'r label, clicwch ar Ychwanegu Labeli oddi tan y teitl. Bydd hyn yn cynnig y dewis i chi ychwanegu’r eitem at label sy'n bodoli drwy glicio + neu i greu label newydd
Gallwch ddileu label o'ch ffefrynnau drwy glicio ar yr eicon pensil a chlicio'r X
Bydd y chwiliadau yr ydych yn ei wneud tra boch chi wedi mewngofnodi yn cael eu safio yn awtomatig oddi tan y pennawd Hane Chwilio yn eich ffefrynnau
Gallwch gadw eich chwiliadau drwy glicio ar y pin ar y dde, bydd yno'n ymddangos yn eich Chwiliadau a Gadwyd
Gallwch ddileu eitemau drwy glicio ar y pin
Neu ddileu chwiliadau a gadwyd drwy glicio ar y bin
Gallwch allfudo cofnodion eich eitemau unai drwy ddewis cofnod unigol, neu drwy dicio'r blwch ar y top i allfudo'r holl eitemau, neu eitemau wedi eu grwpio drwy labeli
Yno cliciwch ar y tri smotyn
Bydd hyn yn cynnig rhestr o opsiynau i allfudo'r cofnodion