Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Sut ydw i’n lawrlwytho e-lyfr ProQuest Ebook Central i'm dyfais?

492 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 16, 2020   

 

Cyn i chi allu lawrlwytho e-lyfr, bydd rhaid i chi ofalu bod y meddalwedd priodol wedi ei osod ar y ddyfais. Os ydych yn defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur, bydd angen i chi lawrlytho Adobe Digital Editions. Os ydych yn defnyddio dyfais Android neu OS (megis iphone/ipad), bydd angen i chi osod y rhaglen ap Blufire Reader arno.

Unwaith y byddwch wedi gosod y meddalwedd priodol ar eich dyfais, bydd angen i chi greu cyfrif Adobe, sydd yn ofynnol er mwyn agor y llyfr yn Blufire Reader

I lawrlwytho e-lyfr i ddyfais Android neu OS, cliciwch ar ‘Download Book’

Dewiswch eich dyfais ac yno cliciwch ar Continue

Cliciwch ar y cyswllt i osod yr ap Blufire Reader ar eich dyfais

Unwaith bydd yr ap wedi ei osod, bydd angen i chi greu cyfrif Adobe i agor y llyfr. Cliciwch ar ‘Create a free Adobe ID’

Llenwch y meysydd gofynnol a chliciwch ar ‘Sign up’

Bydd y llyfrau yr ydych wedi eu llawrlwytho yn cael eu cadw i’ch llyfrgell, cliciwch ar glawr y llyfr i gael mynediad ato.

Dyma sut bydd y llyfr yn ymddangos ar eich dyfais

Bydd y llyfr yr ydych wedi ei lawrlwytho yn parhau ar y ddyfais am gyfnod o 24 awr. Ar ddiwedd y cyfnod, gallwch lawrlwytho’r llyfr eto os bydd angen.

 

 

 

 

 

 

chat loading...