Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Alla i archebu copi fformat hygyrch o adnoddau’r llyfrgell?
Os bydd yr angen wedi ei restri yn eich CCDP (Cynllun Cefnogi Dysgu Personol) gallwch wneud cais i archebu copïau fformat hygyrch o adnoddau’r llyfrgell. Bydd y fformat hygyrch yn cael ei ddarparu mewn ffurf pdf.
Gallwch yno redeg y testun y byddwch yn ei dderbyn drwy system meddalwedd SensusAccess a’i drawsnewid i fformat priodol a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion. Cysylltwch â’r adran Gwasanaethau Anabledd os oes angen cymorth arnoch wrth ddefnyddio'r system SensusAccess.
Gall SensusAccess drawsnewid dogfennau i amrediad o wahanol ffurf gan gynnwys llyfrau llafar, e-lyfrau ac Braille digidol.
Sylwch fod y pdf y byddech yn ei dderbyn ar gyfer eich defnydd personol yn unig, ni ddylech rannu’r ddogfen gydag unrhyw un i gydymffurfio a delerau hawlfraint.
Byddem yn chwilio i weld os bydd y llyfr ar gael drwy RNIB Bookshare yn gyntaf, os na fydd y llyfr ar gael yno, byddem yn cysylltu â’r cyhoeddwyr i ofyn am gopi. Gall y broses yma gymryd tipyn o amser gan ein bod yn dibynnu ar gyhoeddwyr i ddarparu’r gwasanaeth.
Sylwch hefyd bod yn angenrheidiol i’r Llyfrgell ddal copi printiedig neu electroneg o’r llyfr cyn i ni allu archebu copi hygyrch a ni allwn sicrhau y byddem yn gallu cael gafael ar gopi o’r llyfr.
Gallwch wneud cais am ddeunydd fformat hygyrch drwy lenwi’r ffurflen yma.
Oes oes genych unrhyw gwestiwn am ddeunydd fformat hygyrch, gallwch ein e-bostio yma.
Gallwch weld tudalen we'r llyfrgell ynglŷn â chymorth gyda hygyrchedd yma.