Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
300 safbwyntiau | 0 0 | Wedi i ddiweddaru ar Aug 05, 2020 Welsh
Cyfnodolion, neu Gylchgronau fel maent hefyd yn cael eu galw, yw’r term a roddir i gyhoeddiadau o gasgliadau o erthyglau sydd wedi eu hysgrifennu gan awduron academaidd. Maent yn ffynonellau pwysig ac awdurdodol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol ac yn cynnig yr ymchwil mwyaf diweddar wedi ei ysgrifennu gan arbenigwyr ar gyfer arbenigwyr.
Bydd Cyfnodolion yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd (wythnosol, misol, chwarterol) gyda chyfnodolion printiedig yn cael eu cyhoeddi mewn rhifynnau. Ar ddiwedd phob blwyddyn bydd yr holl rifynnau yn cael eu rhwymo at ei gilydd yn gyfrol unigol.
Bydd y rhan fwyaf o gyfnodolion erbyn hyn yn cael eu cyhoeddi yn electroneg ond bydd y ffurf draddodiadol o’u trefnu, mewn rhifynnau a chyfrolau, yn parhau.
Gallwch weld os yw’r Llyfrgell yn tanysgrifio i unrhyw gyfnodolyn penodol, drwy chwilio Chwiliad Llyfrgell, (catalog y llyfrgell). Gofalwch eich bod yn chwilio o dan y cwmpawd chwilio Casgliadau Llyfrgell PB. Teipiwch deitl y cyfnodolyn ac yno cliciwch ar yr eicon chwydd wydr i chwilio. Efallai bydd angen i chi gyfyngu eich chwiliad drwy ddewis Math o Adnodd: Cyfnodolion a chyfyngu i gopïau printiedig neu electroneg drwy ddewis Dangos yn Unig: Ar gael yn y Llyfrgell NEU Opsiynau Llawn Ar-lein.
Cofiwch y gallwch ddefnyddio catalog y llyfrgell i chwilio am deitlau cyfnodolion yn ogystal â’r erthyglau o fewn y cyfnodolion.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein system chwilio E-gyfnodolion a leolir uwch ben y blwch chwilio ar y catalog sydd wedi ei labelu ‘Chwilio am E-gyfnodolion’.