Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Ydi’r llyfrgell yn codi dirwyon am lyfrau sydd wedi eu dychwelyd yn hwyr?

243 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Feb 26, 2020   

 

Os dychwelwch lyfrau ar ôl y dyddiad dychwelyd (neu ar ôl unrhyw ddyddiad newydd a bennir gan lythyr galw'n ôl), gofynnir i chi dalu dirwy. Codir y rhain ar BOB dosbarth o fenthycwyr.

Dyma’r rhestr dirwyon gyfredol:

Eitemau a elwir yn ôl

£1 y dydd

 

Benthyciad byr cyfnod benthyg 24 awr

£2 yr awr am y 2 awr gyntaf ac yno 50c yr awr neu ran o awr ar ôl hynny

Benthyciad byr cyfnod benthyg 3 diwrnod

50c y dydd

 

Benthyciadau Cyffredin (sydd wedi cyrraedd y rhif cyfyngedig o 14 a ganiateir o adnewyddiadau awtomatig)

20c y dydd

 

Cyfnodolion o’r Storfa Ymchwil

20c y dydd

 

 

Adnewyddu Awtomatig

Bydd benthyciadau 4 wythnos staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn adnewyddu yn awtomaig 7 diwrnod cyn cyrraedd y dyddiad dychwelyd.  Sylwch bod y nifer o weithiau bydd eich eitemau yn adnewyddu yn awtomaig wedi ei gyfyngu i 14 . Ar ôl hynny, mae'n rhaid i'r eitemau gael eu dychwelyd i'r llyfrgell.

Nid yw benthyciadau cyfnod byr (benthyciadau 24 awr a 3 diwrnod) a benthyciadau i ddefnyddwyr allanol wedi eu cynnwys yn y drefn hon ac ni chânt eu hadnewyddu'n awtomatig.  

 

Eithriadau Adnewyddu

Ni ellwch adnewyddu unrhyw eitem os:  

  • oes ar rywun arall ei hangen
  • nad ydych wedi talu unrhyw gostau dyledus
  • oes problem gyda'ch aelodaeth o'r llyfrgell.
  • os mae eich eitemau wedi cael eu hadnewyddu 14 tro yn barod

Os bydd eich dirwyon yn crynhoi i fwy na £10 ni chaniateir i chi fenthyca unrhyw eitemau pellach nes byddwch wedi lleihau eich dyled.

Gellir talu dirwyon yn y fan a'r lle neu ar adeg ddiweddarach sy'n gyfleus i chi.   Mae cyfleusterau cerdyn credyd/debyd ar gael i dalu AR-LEIN drwy eich cyfrif llyfrgell (cyfarwyddiadau). 

 

Eitemau a Gollir

Os caiff eitemau eu colli, eu niweidio neu eu anharddu, bydd rhaid i chi dalu am rai yn eu lle, yn ogystal â thâl gweinyddu o £10.00.   

 

Anghydfodau

Gall defnyddwyr gael eu hesgusodi rhag talu eu dirwyon llyfrgell dan amgylchiadau arbennig. 

Mae ffurflen ymgynghori lle gellir cyflwyno achos ar gael yma

Dylech gynnwys manylion llawn y swm rydych yn ei herio a'r eitemau dan sylw - gellwch gael hyd i'r wybodaeth hon drwy fynd i'ch cyfrif llyfrgell.

Gall tystiolaeth i gefnogi eich cais gynnwys:  Derbynneb e-bost o beiriant hunan-wasanaeth, tystysgrif feddygol/cerdyn apwyntiad ysbyty, neu ddatganiad ysgrifenedig gan weinyddwr eich ysgol.   Dylid cyflwyno'r rhain gyda'r ffurflen i gyflymu'r broses. 

Dylid rhoi'r ffurflenni i aelod staff wrth y ddesg Gwasanaethau Cwsmer.

 

chat loading...