Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mynediad at e-adnoddau ym Mhrifysgol Bangor:
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Bangor yn tanysgrifio i ystâd eang o adnoddau electroneg sy’n cynnwys e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data electroneg. Gall staff a myfyrwyr cofrestredig gael mynediad at yr adnoddau hyn ar ac oddi ar y campws.
Am gyfarwyddiadau ar ddefnyddio e-lyfrau, cliciwch yma.
I gael mynediad at ein casgliadau o e-gyfnodolion a chronfeydd data bydd angen i chi gyrchu catalog y llyfrgell.
Mae catalog y llyfrgell wedi ei isrannu yn dri chwmpawd chwilio ( y tri dewis sydd yn ymddangos wrth i chi deipio eich allweddeiriau a gall gael eu dewis o’r gwymplen ar ochr dde'r blwch chwilio).
Mae’r cwmpawd chwilio Chwiliad Erthyglau yn chwilio ar draws danysgrifiadau cyfnodolion electroneg a mwy gan ddychwelyd canlyniadau sy’n cynnwys erthyglau cyfnodolion, erthyglau phapurau newydd a thrafodion cynhadledd.
Mae’r cwmpawd chwilio Casgliadau Llyfrgell PB yn chwilio ar draws eitemau printiedig rydym yn ei dal yn ein llyfrgelloedd megis llyfrau (gan gynnwys e-lyfrau), cyfnodolion fesul teitl, traethodau ymchwil a deunyddiau clyweled a.y.b.
Mae’r cwmpawd chwilio Popeth yn chwilio am gyfuniad o’r ddau gwmpawd arall. Gallwch gyfyngu eich canlyniadau chwilio i adnoddau electroneg yma drwy ddewis Opsiynau Llawn Ar-lein o dan Dangos yn Unig o’r rhestr Mireinio fy Nghanlyniadau ar dde'r sgrin.
Mae'r Cwmpawd chwilio E-Adnoddau Bangor yn chwilio am e-lyfrau, e-gyfnodolion, cronfeydd data a traethodau hir PhD digidol
Os ydych yn chwilio yn benodol am erthyglau cyfnodolion, rydym yn awgrymu i chi ddefnyddio’r cwmpawd Chwiliad Erthyglau, ond cofiwch gan fod y catalog y llyfrgell yn chwilio ar draws ein holl gasgliad o gyfnodolion tanysgrified a chronfeydd data, bydd yn debyg y byddwch yn derbyn nifer fawr o ganlyniadau.
Yn ffodus, mae’r catalog yn cynnig modd i chi gyfyngu eich chwiliadau o ran dyddiadau, math o adnodd (erthygl cyfnodolyn neu erthygl papur newydd) a phwnc.
Os ydych yn dal i dderbyn gormod o ganlyniadau, dylech feddwl am ychwanegu allweddeiriau ychwanegol neu adolygu eich termau chwilio.
I lawrlwytho erthygl o’ch canlyniadau, gallech glicio ar y cyswllt Lawrlwytho Erthygl.
O dro i dro, efallai na fydd y cyswllt i lawr-lwytho yr erthygl yn ymddangos, pan fydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi glicio drwodd i dudalen y cyhoeddwyr drwy’r cyswllt Testun Llawn ar gael.
Efallai byddwch hefyd yn darganfod bod yr erthygl yn cael ei ddarparu gan fwy nag un cyhoeddwr. Gofalwch fod yr amrediad dyddiadau a fydd yn ymddangos yn gyd fynd a'r dyddiad y cafodd eich erthygl ei gyhoeddi.
Bydd angen chi yno chwilio’r dudalen am y cyswllt i lawr-lwytho’r ddogfen PDF.
Os ydych am chwilio cyfnodolyn electroneg benodol, gallwch un ai deipio ei deitl i’r blwch chwilio, neu gallwch glicio ar y cyswllt Chwilio am E-Gyfnodolion uwchben y blwch chwilio ar y catalog.
Bydd hy yn mynd a chi at ein tudalen Browzine lle gallwch chwilio am eich cyfnodolyn fesul teitl, ISSN yn y blwch chwilio, neu bori'r teitlau fesul pwnc.