Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Sut ydw I’n defnyddio e-lyfrau?

357 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Mar 16, 2020   

 

Sut ydw i’n defnyddio e-lyfrau?
Mae’r llyfrgell yn tanysgrifio at gasgliad helaeth o e-lyfrau gan nifer o gyhoeddwyr gwahanol sy’n cynyddu’n ddyddiol. Mae rhai o’r e-lyfrau yma yn cael eu cynnig ar ffurf DRM-Free (hawliau rheoli digidol di dal) neu drwy drwydded Fynediad Agored a fydd yn eich galluogi i lawrlwytho i gadw, neu argraffu cymaint ag y mynnwch o’r llyfr.
Mae’r rhan fwyaf o’n casgliadau e-lyfrau yn cael eu darparu gan ddau o’r cyhoeddwyr mwyaf sef ProQuest Ebook Central ac EBSCO Ebooks. Mae’r ddau yn cynnig opsiwn i ddarllen ar-lein ac i lawrlwytho. Os byddwch yn dewis  i lawrlwytho’r llyfrau hyn, byddwch yn cael eich cyfyngu i fenthyciad o 24 awr ymhle ar ddiwedd y cyfnod bydd y llyfr yn diflannu o’ch dyfais.
Bydd cyfyngiadau eraill hefyd yn cael eu gosod ar lyfrau sy’n cael eu darpar gan Proquest ac Ebsco, megis y nifer o dudalennau y maent yn caniatáu i’w argraffu a'r nifer cyfredol o ddefnyddwyr a all ddefnyddio’r llyfrau.
Rydym yn awgrymu i chi ddewis yr opsiwn darllen ar-lein ar gyfer y ddau blatfform yma os oes gennych gysylltiad sefydlog i’r we.  Bydd hyn yn cynnig mwy o nodweddion megis argraffu, copïo ac anodi’r testun.
Darllen Ar-lein

  • Defnyddiwch lle bydd genych fynediad cyson i’r we
  • Gallwch gopïo neu argraffu nifer cyfyngedig o dudalennau
  • Gallwch chwyddo maint y testun
  • Cynnig yr opsiwn i chwilio o fewn y testun llawn am allweddeiriau penodol
  • Efallai bod cyfyngiadau ar y nifer o ddefnyddwyr cyfredol

Llawrlwytho i ddarllen all-lein (ProQuest Ebook Central ac EBSCO Ebooks)

  • Angen i chi lawrlwytho meddalwedd arbennig i ddarllen y llyfr megis Bluefire Reader ac Adobe Digital Editions
  • Bydd benthyciadau yn cael eu cyfyngu fel rheol i 24 awr, ar ôl y cyfnod hwn, byddent yn diflannu o’ch dyfais
  • Ni fyddwch yn gallu argraffu, chopïo neu anodi testun
  • Efallai bod cyfyngiadau ar y nifer o ddefnyddwyr cyfredol

I chwilio am e-lyfrau ynn nghatalog y llyfrgell, yn gyntaf, teipiwch eich allweddeiriau i mewn i’r blwch chwilio gan ofalu eich bod yn chwilio drwy’r cwmpawd Casgliadau Llyfrgell PB.

O’r rhestr canlyniadau ar ochr dde'r sgrin o dan y pennawd ‘Mireinio fy Nghanlyniadau’, dewiswch Llyfrau ac Llyfrau Electroneg a hefyd Opsiynau Llawn Ar-lein.

Am wybodaeth ar sut i lawrlwytho llyfrau ProQuest Ebook Central, cliciwch yma.

Am wybodaeth ar sut i lawrlwytho llyfrau EBSCO Ebooks, cliciwch yma.

 

chat loading...