Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Rwyf yn gadael Bangor / yn fyfyriwr flwyddyn olaf sut allai ddychwelyd fy menthyciadau yn ystod yr argyfwng coronafirws?

396 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Jun 04, 2021   

 

DIM YN DYCHWELYD I'R CAMPWS ELENI?

I fyfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf.

Mae'n siŵr eich bod yn pendroni sut i fynd ati i ddychwelyd eich llyfrau i'r Llyfrgell. Cewch ddefnyddio ein Gwasanaeth Rhadbost newydd i ddychwelyd llyfrau i'r Llyfrgell. Diolch am ofalu amdanynt inni dros yr haf.

Rydym wedi sefydlu gwasanaeth RHADBOSTgyda'r post brenhinol a fydd yn caniatáu ichi fynd â'ch llyfrau i'r Swyddfa Bost agosaf a'u hanfon yn ôl atom yn rhad ac am ddim.

Mae yna ychydig o gamau syml i'w dilyn:

  • Lapiwch y llyfrau'n ofalus rhag unrhyw ddifrod ac i sicrhau y byddant yn ein cyrraedd yn ddiogel.  Efallai y bydd angen i chi wneud mwy nag un parsel gan ddibynnu ar faint a phwysau'r llyfrau.  Ni ddylai pob parsel bwysoli mwy na 20kg a pheidio â bod yn fwy na'r dimensiynau isod:

 Ewch i'r cyfeiriad gwe: www.royalmail.com/track-my-return/create/3911 ac, os yn bosibl, argraffwch y label Freepost a'i lynu i'r parsel. Os nad oes gennych argraffydd, copïwch god QR y label Freepost i'ch ffôn symudol. Anfonir e-bost atoch hefyd gyda chopi o'r label gan gynnwys y cod QR.

  • Ewch â'ch parsel i'r Swyddfa Bost agosaf. Os nad ydych wedi gallu argraffu'r label dychwelyd, dangoswch y cod QR iddynt a byddant yn ei argraffu ar eich rhan.
  • Caiff y llyfrau Rhadbost eu dychwelyd i'r Brifysgol cyn pen 48 awr. Cofiwch, byddant yn aros ar eich cyfrif Llyfrgell nes bydd staff y Llyfrgell yn gallu eu dychwelyd i'r stoc, a gallai hyn gymryd hyd at wythnos oherwydd cyfnodau cwarantîn dychwelyd llyfrau.  Fodd bynnag, byddant yn parhau i adnewyddu'n awtomatig nes byddant yn ôl mewn stoc, ac felly ni fyddwch yn cael dirwy.

Gobeithiwn y bydd y broses hon yn syml ac yn ddi-drafferth i chi.  Os na allwch ddychwelyd y llyfrau atom trwy'r dull hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: llyfrgell@bangor.ac.uk

 

Os gallwch ddarffeilio i Fangor, mae yna finiau dychwelyd ar gael yn y safleoedd canlynol:

  • Cyntedd y Brif Lyfrgell ar gael rhwng 9:00am ac 9:00pm Dydd Llun i Ddydd Gwener,  12:00pm - 9:00pm ar Ddydd Sadwrn & Dydd Sul

  • Llyfrgell Adeilad Deiniol ar gael rhwng 9:00am ac 5:00pm Dydd Llun i Ddydd Gwener, 

  • Llyfrgell Safle'r Normal Gallwch ddychwelyd eich llyfrau i'r bin sydd wedi ei leoli tu allan i'r adeilad Llyfrgell

  • Llyfrgell Maelor WrecsamGallwch ddychwelyd eich llyfrau i'r bin sydd wedi ei leoli tu allan i'r adeilad Llyfrgell

  • Swyddfa Neuaddau Safle Ffriddoedd rhwng 9:00pm ac 5:00pm yn ystod yr wythnos

  • Swyddfa Neuaddau Safle'r Santes Fair 24/7 

 

** Sylwch: Bydd pob llyfr sy'n cael ei ddychwelyd i'r biniau dychwelyd coch yn cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr. Bydd y llyfrau hyn yn cael eu clirio o'ch cyfrif llyfrgell ar ôl y cyfnod cwarantin

 

chat loading...