Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae’r gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd yn parhau i weithredu ond gyda rhai cyfyngiadau.
Gallwn gyflenwi eitemau sydd ar gael yn electroneg megis erthyglau cyfnodolion a phenodau o lyfrau, ond gan mai nifer fechan o lyfrgelloedd sydd yn benthyca deunydd printiedig allan i ni ar hyn o bryd, efallai na allwn gael gafael ar rai eitemau. Fe wnawn ni gysyllyu â chi os na allwn gyflawni eich cais. Bydd unrhyw ddeunydd printiedig y byddwn yn gallu ei gyflawni, yn cael eu cynnig i chi i'w casglu, trwy ein gwasanaeth Clicio a Chasglu.
Os oes angen pennod arbennig mewn llyfr arnoch, rhowch rif y bennod, rhif y tudalennau a theitl y bennod yn y blwch nodiadau yn y ffurflen archebu ar-lein ac fe wnawn geisio cael copi i chi os bydd y llyfr ar gael yn electroneg gan ein partneriaid.
Os ydych angen llyfr cyfan, sydd ddim ar gael i ni ar hyn o bryd, gallwch wneud cais amdano trwy ein gwasanaeth Mwy o Lyfrau. Os bydd y Llyfrgell yn penderfynu prynu llyfr ar sail eich awgrym, byddem yn ymdrechu i archebu copi yn electroneg.
Mae’r broses o archebu drwy Fenthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd i’w gweld yma.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016