Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Os ydych am weld traethawd hir printiedig yn y Brif Lyfrgell, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Neilltuo a Darllen.
Mae nifer o Draethodau PhD Prifysgol Bangor, sydd wedi eu llwytho i'r Ystorfa Ddigidol, ar gael yn electroneg drwy Chwiliad Llyfrgell, catalog y llyfrgell.
Dewiswch y cwmpawd chwilio “E-Adoddau Bangor” a theipiwch eich geiriau allweddol. Yna gallwch gyfyngu eich chwiliad i Draethodau Hir drwy dicio'r blwch oddi tan Math o Adnodd o'r fwydlen Mireinio fy Nghanlyniadau ar y dde o'r sgrin ac yno glicio ar Hidlwyr Gweithredol.
Os ydych eisiau ymgynghori â thesis ymchwil doethur o brifysgol arall, gellwch chwilio gwe-dudalen ETHOS (Electronic Thesis Online Service) y Llyfrgell Brydeinig, sy'n rhoi mynediad i chi at grynodebau dros 300,000 o theses doethurol ym Mhrydain, yn cynnwys mynediad at destun llawn bron 100,000 ohonynt.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: +44 (0) 1248 382981
E-bost: library@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Hawlfraint © 2001–2016