Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Bydd yr holl eitemau sydd ar fenthyg ar hyn o bryd, gan gynnwys benthyciadau rhwng llyfrgelloedd, yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig hyd nes y clywir yn wahanol.
Ni chodir unrhyw ddirwyon.
Nid oes rhaid i chi ddychwelyd unrhyw lyfrau ar hyn o bryd ond os hoffech ddychwelyd eich benthyciadau, mae yna finiau dychwelyd llyfrau yn y safleoedd canlynol:
** Sylwch: Bydd pob llyfr sy'n cael ei ddychwelyd i'r biniau dychwelyd coch yn cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr. Bydd y llyfrau hyn yn cael eu clirio o'ch cyfrif llyfrgell ar ôl y cyfnod cwarantin
DIM YN DYCHWELYD I'R CAMPWS ELENI?
I fyfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf.
Mae'n siŵr eich bod yn pendroni sut i fynd ati i ddychwelyd eich llyfrau i'r Llyfrgell. Cewch ddefnyddio ein Gwasanaeth Rhadbost newydd i ddychwelyd llyfrau i'r Llyfrgell. Diolch am ofalu amdanynt inni dros yr haf.
Rydym wedi sefydlu gwasanaeth RHADBOSTgyda'r post brenhinol a fydd yn caniatáu ichi fynd â'ch llyfrau i'r Swyddfa Bost agosaf a'u hanfon yn ôl atom yn rhad ac am ddim.
Mae yna ychydig o gamau syml i'w dilyn:
Ewch i'r cyfeiriad gwe:www.royalmail.com/track-my-return/create/3911 ac, os yn bosibl, argraffwch y label Freepost a'i lynu i'r parsel. Os nad oes gennych argraffydd, copïwch god QR y label Freepost i'ch ffôn symudol. Anfonir e-bost atoch hefyd gyda chopi o'r label gan gynnwys y cod QR.
Gobeithiwn y bydd y broses hon yn syml ac yn ddi-drafferth i chi. Os na allwch ddychwelyd y llyfrau atom trwy'r dull hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: llyfrgell@bangor.ac.uk