Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Beth yw LibKey Nomad a beth mae o yn ei wneud?

181 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Aug 25, 2020   

 

Estyniad porwr rhad ac am ddim yw LibKey Nomad sydd yn cynnig cyswllt i erthyglau testun llawn a ddarparwyd gan Brifysgol Bangor tra byddwch yn pori'r we.

Unwaith y byddwch wedi gosod yr estyniad, pan fyddwch yn dod ar draws erthygl o gyfnodolyn tu faes i gatalog y llyfrgell, bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod i chi os bydd yr erthygl ar gael drwy danysgrifiadau'r llyfrgell, neu os oes copi mynediad agored ar gael, drwy rybudd baner ar waelod y dudalen, fel y gwelir isod.

Cliciwch ar yr eicon i gael mynediad at yr erthygl.

Mae opsiynau mynediad LibKey Nomad hefyd ar gael ar dudalennau canlyniadau chwilio (e.e. PubMed Web of Science) a gwefannau cyfeirio megis Wikipedia.

Sylwer: Os ydych oddi ar y campws, cewch eich arwain at dudalen fengofnodi Prifysgol Bangor i ddilysu. NID yw LibKey Nomad yn cadw eich cyfrinair

 

chat loading...