Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Sut ydw i'n cael mynediad at Times Higher Education?

325 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Nov 30, 2020   

 

Dechra Arni

Bydd angen i chi ymweld â thudalen gartref Times Higher Education i greu cyfrif ar-lein. Ar y tudalen gartref, crëwch gyfrif THE trwy glicio ar yr eicon sydd wedi ei gylchu ac yna clicio ar y botwm gofrestru, "Register" yn y gwymplen.

 

Wrth greu cyfrif ar-lein, bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost Prifysgol Bangor. Unwaith y bydd y cofrestriad wedi ei gwblhau, bydd gennych fynediad at holl gynnwys THE ar-lein heb unrhyw gyfyngiadau.

 

Os cewch unrhyw broblemau wrth danysgrifio, e-bostiwch membership@timeshighereducation.com

 

Cael Mynediad at Rifynnau Digidol THE

I gael mynediad at rifynnau digidol cylchgrawn THE, cliciwch ar y pennawd “Professional” ar eu tudalen gartref a dewis “Digital Editions”

 

Ar ôl i chi glicio ar “Digital Edition”, dewiswch y rhifyn yr hoffech ei weld.