Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Gwasanaeth Clicio a Chasglu
Ni all defnyddwyr fynd at y silffoedd llyfrau, felly defnyddiwch y gwasanaeth clicio a chasglu os ydych eisiau llyfr, cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Sylwch - Mae'n bosibl pori'n rhithiol trwy'r silffoedd llyfrau ac mewn sawl achos drwy'r tudalennau cynnwys ar-lein yn Chwiliad Llyfrgell, catalog y Llyfrgell. Ewch i'n canllawiau ar-lein i gael rhagor o fanylion.
Mannau Astudio
Mae gan Lyfrgell Wrecsam nifer o wahanol fannau astudio y gellir eu harchebu.
I archebu'ch sedd, e-bostiwch iss60a@bangor.ac.uk i ofyn am fan astudio. Gwnewch yn siŵr bod eich e-bost yn cynnwys y canlynol:
Mae gennym 15 cyfrifiadur, 13 desg a 6 man darllen tawel i chi ddewis ohonynt. Bydd rhaid i chi ddod â'ch cerdyn adnabod myfyriwr/staff gyda chi i gael mynediad i adeilad y llyfrgell.
Cyfleusterau
Argraffu, copïo, sganio - Mae peiriannau ar gael i argraffu, copïo a sganio. Prynwch gredydau ar-lein yn https://papercut.bangor.ac.uk/user.
Toiledau - Mae toiledau, yn cynnwys toiledau addas i'r anabl, ar gael i'w defnyddio yn yr adeilad. Dilynwch y canllawiau a ddarperir ar y safle.
Dychwelyd llyfrau - Gellir dychwelyd llyfrau yn y bin llyfrau y tu allan i'r llyfrgell.
Sylwch:
Mae'r holl fannau at ddefnydd unigol. Nid oes cyfleusterau gweithio mewn grŵp ar gael ar hyn o bryd.
Bydd rhaid i chi ddod â'ch cerdyn adnabod myfyriwr/staff gyda chi i gael mynediad i Lyfrgell Wrecsam.
Mae croeso i chi ddod â dŵr gyda chi gan nad yw'r peiriannau gwerthu na'r peiriannau dŵr ar gael.
Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb bob amser pan fyddwch yn adeilad y llyfrgell (oni bai eich bod wedi eich eithrio).