Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Catalog y Llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell) yw'r allwedd i gael hyd i eitemau yn y Llyfrgell. Mae Chwiliad Llyfrgell wedi ei rannu yn dair cwmpas chwilio; Popeth, Chwiliad Bangor a Chwiliad Erthyglau
Gallwch ddewis y cwmpas priodol o'r ddewislen ddisgynnol ar ddiwedd y blwch chwilio
neu drwy ddewis y cwmpas priodol sy'n ymddangos yn y blwch chwilio wrth i chi deipio eich termau chwilio
Popeth: Chwilio drwy'r holl gasgliadau yn cynnwys print ac electroneg a gall gael ei ehangu i ddangos canlyniadau heb destun llawn
Chwiliad Bangor: Chwilio am ddeunydd a chedwir gan Brifysgol Bangor yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, cronfeydd data, cyfnodolion fesul teitl, DVDs, CDs, traethodau ymchwil, papurau arholiad a sgorau cerdd
Chwiliad Erthyglau: Chwilio am erthyglau cyfnodolion a phapurau newydd yn ogystal â thrafodion cynhadledd a phenodau llyfrau
Os ydych yn chwilio am lyfr, defnyddiwch y cwmpas Chwiliad Bangor. Teipiwch cymaint o fanylion ac sydd gennych am eich llyfr i mewn i’r blwch chwilio, gan gynnwys y teitl ac enw’r awdur, ac yna pwyswch y botwm Chwilio.
Pan ydych yn cael hyd i eitem yn Chwiliad Llyfrgell, os mae ar gael i’w fenthyg, bydd yn dangos y statws Ar gael yn gyda’r lleoliad wedi ei restri. Cliciwch ar y cyswllt Ar gael yn i weld faint o gopïau sydd ar gael. Dylech nodi lleoliad a rhif y llyfr er mwyn eich helpu i gael hyd i'r llyfr ar y silff. Bydd y lleoliad yn dweud wrthych ym mha lyfrgell y cewch hyd i'r eitem ac ym mha adran. Rhif y llyfr yw'r system a ddefnyddir gennym i gael hyd i'r llyfr ar y silff.
Gallwch hefyd gyfyngu eich chwiliad i e-lyfrau yn unig, gan fynd drwy’r broses uchod, ac o’r ffilteri ar ochr dde'r sgrin, dewis Dangos yn Unig - ‘Testun Llawn Arlein’ ac yna, Math o Adnodd - ‘Llyfrau a Llyfrau Electronig’
Os ydych eisiau cael hyd i eitemau ar restr ddarllen arbennig modiwl neilltuol, gallwch wneud hynny drwy glicio ar y cyswllt 'Rhestrau Darllen', ar ochr chwith y sgrin o dudalen gartref y catalog, a theipio teitl eich modiwl neu god y modiwl gan gynwyd y cysylltnod.