Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
1022 safbwyntiau | 0 0 | Wedi i ddiweddaru ar Jan 10, 2020 Welsh
Chwilio am lyfrau yn Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfrgell)
Er mwyn dod o hyd i lyfrau yn y llyfrgell, bydd angen i chi deipio teitl y llyfr i mewn I Chwiliad Llyfrgell (catalog y llyfrgell). I chwilio am lyfrau, gofalwch eich bod yn chwilio trwy’r cwmpawd Casgliadau Llyfrgell PB
Unwaith yr ydych wedi darganfod yr eitem wedi ei restri, bydd angen i chi nodi'r llyfrgell sy’n cadw copi (Prif, Deiniol, Normal, Cymraeg, Maelor, Cyfraith ayb.). Bydd y Lleoliad Ar gael yn dangos pa lyfrgell fydd yn cadw’r llyfr ac ym mha leoliad o fewn y llyfrgell (Llyfr, Pamffled, Llyfr Mawr, Cyfnodolyn ayb.).
Gallwch glicio ar sawl lleoliad i weld a'r llyfrgelloedd sy’n dal copi:
Yn yr esiampl hon, mae un copi ar gael yn Llyfrgell Deiniol a dau gopi yn Llyfrgell Safle’r Normal
Unwaith y byddwch wedi nodi'r llyfrgell a’r lleoliad, gwnewch nodyn o’r rhif galw gan mai dyma y byddwch ei angen i ddod o hyd i’r llyfr ar y silff.
Sut I ddarllen rhifau galw
Bydd llyfrgelloedd yn defnyddio rhifau galw i drefnu llyfrau ar y silffoedd. Cedwir y llyfrau yn ôl trefn ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres (Library of Congress). Mae rhifau'r llyfrau'n dechrau gyda llythyren ac yn mynd drwy'r wyddor gyda phob grŵp pwnc eang yn cael ei lythyren ei hun. Mae'r llythyren a'r rhif sy'n dilyn y llythyren gyntaf/llythrennau cyntaf yn cyfyngu'r pwnc fel bod llyfrau ar yr un testun yn cael eu dosbarthu gyda’i gilydd. Bydd hyn yn golygu tra byddwch yn pori’r silffoedd, byddwch yn darganfod llyfrau defnyddiol tebyg gerllaw.
Strwythur Rhif Galw
Teitl: Change by design: how design thinking transforms organizations and inspires innovation
Awdur: Tim Brown
Rhif Galw: HD58.8 .B772 2009
Sut i ddod o hyd i lyfr ar y silff
Nawr i ddod o hyd i’r llyfr ar y silff. Unwaith y byddwch wedi cael y lleoliad cywir (yn yr esiampl isod, mae 2 gopi ar gael yn Llyfrgell Safle’r Normal > Llyfr)
Bydd nawr angen i chi edrych ar y labeli silffoedd sydd yn ymddangos ar ben pob rhes o silffoedd. HD58.8.B772 2009 yw rhif galw'r llyfr yr ydym yn chwilio amdano, mae’r rhif yn dod ar ôl HC240 a chyn LA361.2 (fel y rhestrir ar y label silff isod) felly dylai’r llyfr fod ar y rhes yma o silffoedd.
Trefn Silffoedd