Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Os ydych eisiau gweld unrhyw eitem ymhlith ein llyfrau prin a chasgliadau arbennig, bydd angen i chi wneud eich cais drwy gatalog y llyfrgell (Chwiliad Llyfrgell).
Gall staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal ac aelodau cofrestredig eraill megis Linc y Gogledd a Sconul, (ar yr amod eu bod wedi creu allweddair llyfrgell) wneud ceisiadau drwy ddilyn y broses isod.
Bydd angen i ddarllenwyr allanol, sydd ddim yn aelodau o Lyfrgell y Brifysgol, ymweld a’r Archifdy er mwyn cofrestru am Gerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau. Bydd hyn yn eu galluogi i roi ceisiadau drwy gatalog y llyfrgell. Er mwyn cael Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau bydd rhaid i chi ddod â dwy ddogfen gyda chi – un i brofi pwy ydych ac un i brofi’ch cyfeiriad.
Bydd angen i phob ymwelwr a’r Archifdy gwblhau "Ffurflen Cofrestru Defnyddwyr" ar eu hymweliad cyntaf.
Nid oes angen Cerdyn Allanol Llyfrgell ar ddarllenwyr allanol i gael mynediad at lyfrau cyfeiriol, catalogau ac adnoddau ar-lein yn narllenfa'r Archifdy.
I wneud cais, dilynwch y broses ganlynol:
Chwiliwch am eich eitem yng nghatalog y Llyfrgell, gofalwch eich bod yn chwilio drwy'r cwmpawd Casgliadau Llyfrgell Prifysgol Bangor. Pan fyddwch yn gweld eich eitem wedi ei restri, cliciwch ar y ddolen "Ar gael yn Archifau...":
Er mwyn archebu copi, bydd angen i chi fewngofnodi i gatalog y llyfrgell:
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd yr opsiwn Gwneud Cais (neilltuo copi) yn ymddangos. Cliciwch ar y ddolen:
Bydd angen i chwi nawr osod y Math o Ddeunydd yn Llyfr, dewis dyddiad ac amser ar gyfer gweld y llyfr ac yno clicio ar Cais i gyflwyno eich cais:
Bydd eitemau’n cael eu casglu a’u cludo i’r Archifdy i’w darllen yn yr ystafell ddarllen.
Bydd yr eitemau yn cael eu casglu yn ddyddiol am 11.00am ac 2.00pm. Mewn adegau o achos brys, gall Shan Robinson nôl eitemau yn ôl dymuniad. Cysylltwch â Shan ar estyniad 2913 neu 3276
Mae’n bosib gwneud ceisiadau i staff y llyfrgell wneud llungopïau ar eich rhan yn unol â thelerau hawlfraint. Serch hynny, mae’r gwasanaeth yn dibynnu ar faint a chyflwr y deunydd. Pris llungopïo yw 40c y dudalen i fyfyrwyr, a 45c y dudalen i rai sydd ddim yn fyfyrwyr.