Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Oes yno adnoddau llyfrgell allai eu defnyddio yn ystod yr argyfwng coronafirws?

76 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar Sep 25, 2020   

 

Rydym wedi ychwanegu cwmpawd chwilio E-Adnoddau Bangor i gatalog y llyfrgell i chwilio am e-lyfrau, e-gyfnodolion, cronfeydd data, papurau arholiad a thraethodau hir PhD digidol. Bydd hyn yn golygu fod canlyniadau eich chwiliadau i gyd ar gael ar-lein.

 

 

Os ydych angen chwilio am erthyglau, bydd angen i chi ddewis y cwmpawd Chwiliad Erthyglau.

 

Rydym yn ymdrechu i archebu adnoddau ar-lein i’ch cefnogi gan gynnwys chwilio i weld os mae eitemau hanfodol ar restri darllen i’w cael yn electroneg.
 

Rydym hefyd wedi derbyn mynediad dros dro i ystod eang o adnoddau electroneg mynediad agored gan nifer o gyhoeddwyr. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gasgliad cyflawn dros 200,000 o e-lyfrau EBSCO Academic Books, dros 30,000 o e-lyfrau gan JSTOR a mynediad am ddim at werslyfrau Springer Nature a llawer mwy.  Ni fydd yr adnoddau yma yn ymddangos wrth chwilio catalog y llyfrgell, ond gallwch bori’r rhestr o gyhoeddwyr a chael mynediad at yr adnoddau yma.

 

Dewiswch adnodd neu gyhoeddwr o'r rhestr

 

 

Ac yno chwiliwch am deitl eich llyfr neu adnodd o wefan y cyhoeddwyr. Mae'r esiampl isod, EBSCO Academic e-book collection, yn caniatáu mynediad dros dro i dros 200,000 o e-lyfrau.

 

 

chat loading...