Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

COA - Llyfrgell


Allai gael mynediad at y deunydd printiedig megis llyfrau a chyfnodolion ar silffoedd y llyfrgell yn ystod yr argyfwng coronafirws?

6 safbwyntiau   |   0   0   |   Wedi i ddiweddaru ar May 07, 2020   

 

Yn anffodus nid oes modd darparu mynediad at ein casgliadau printiedig ar hyn o bryd.

Mae ein llyfrgelloedd i gyd ar gau am gyfnod amhenodol i gyd fynd a chanllawiau’r Llywodraeth.

Er mwyn symleiddio’r broses o ddarganfod adnoddau electroneg, rydym wedi newid y cwmpawd chwilio rhagosodedig yng nghatalog y llyfrgell i chwilio am e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data (E-Adnoddau Bangor). 

Os ydych angen chwilio am erthyglau, bydd angen i chi ddewis y cwmpawd Chwiliad Erthyglau.

Rydym yn ymdrechu i archebu adnoddau ar-lein i’ch cefnogi gan gynnwys chwilio i weld os mae eitemau hanfodol ar restri darllen i’w cael yn electroneg. 

Rydym hefyd wedi derbyn mynediad dros dro i ystod eang o adnoddau electroneg mynediad agored gan nifer o gyhoeddwyr. Gallwch weld rhestr o’r adnoddau hyn yma.

Mae’r gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd yn parhau i weithredu os ydych angen archebu erthyglau neu benodau arbennig o lyfrau nad ydynt ar gael ym Mangor

 

 

chat loading...